Pan ballo ffafor
pawb a'i hedd,
Duw, o'i drugaredd odiaeth,
Yn Dad, yn Frawd, yn Ffrind a fydd
Ar gyfyng ddydd marwolaeth.
Gwyn fyd y rhai
dilëaist eu bai,
Eu pechod, a'u hanwiredd:
Gan roi iddynt nerth
er cnawd a byd,
I bara hyd y diwedd.
Hir ddisgwyl 'rwyf, a hyn bob cam,
Fel gwyliwr am y borau,
Gael profi grym
dy nefol ras,
Yn difa'm hatgas feiau.
Nid all un gelyn nac un bai
Byth ddamnio'r rhai crediniol;
Mae gwaed yr Oen, ag uchel lef,
O fewn y nef yn eiriol.
- - - - -
Pan ballo ffafr
pawb a'u hedd,
Duw, o'i drugaredd odiaeth,
Yn Dad, yn Frawd, yn Gyfaill fydd
Ar gyfyng ddydd marwolaeth.
O! Iesu cu, tosturia di,
A rho i mi ddoethineb,
I'th dewis di yn rhan i mi,
Cyn myn'd i dragwyddoldeb.
Cyn imi orwedd yn fy medd,
Rho imi webb dy wyneb;
Moli dy enw mawr a wnaf
Hyd eithaf tragwyddoldeb.
William Williams 1717-91
Tonau [MS 8787]: gwelir: Clodfored bawb ein Harglwydd Dduw Gwyn fyd y rhai dilëaist eu bai O Iesu cu tosturia di Rhaid imi gael pob gras pob dawn |
When the favour of all
and their peace fades,
God, of his excellent mercy,
A Father, a Brother, a Friend shall be
On the confining day of death.
Blessed are they
whose fault thou didst cancel,
Their sin, and their untruth:
While giving to them strength
despite flesh and world,
To endure until the end.
Long waiting am I, and this every step,
Like a watchmen for the morning,
To get to experience the force
of thy heavenly grace,
Eradicating my detestable faults.
No enemy nor any fault can
Ever condemn believing ones;
The blood of the Lamb is, with a loud cry,
Within heaven interceding.
- - - - -
When the favour of all
and their peace fades,
God, of his excellent mercy,
A Father, a Brother, a Friend shall be
On the confining day of death.
O dear Jesus, show thou mercy,
And give me wisdom,
To choose thee as my portion,
Before going to eternity.
Before I lie in my grave,
Give me the countenance of thy face;
Praise thy great name I shall do
As far as the extremity of eternity.
tr. 2016 Richard B Gillion
|
When human help is at an end When human help is at an endHowell Elvet Lewis (Elfed) 1860-1953 Sweet Singers of Wales 1889 |